Darllen yn Well ar gyfer dementia

Mae Darllen yn Well ar gyfer dementia yn argymell adnoddau darllen a digidol defnyddiol i bobl sy’n byw gyda dementia.  

Mae yna lyfrau i deuluoedd, ffrindiau a gofalwyr hefyd. Mae’r rhestr lyfrau’n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth dibynadwy yn ogystal â straeon personol a llyfrau sy’n briodol i’w hoedran i blant. 

Mae’r rhestr lyfrau wedi’i thargedu at bobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr ac aelodau teulu gan gynnwys plant iau i’w helpu i ddeall mwy am ddementia. 

Chwiliwch am y llyfrau Darllen yn Well ar gyfer dementia yn eich llyfrgell leol – gallwch eu benthyca am ddim. 

Mae llawer o deitlau hefyd ar gael i’w benthyca fel e-lyfrau a llyfrau sain. Gallwch ddysgu sut i ymuno â’r llyfrgell a chael mynediad i lyfrau, e-lyfrau a llyfrau sain drwy wefan eich llyfrgell leol

Cymru 
Mae ein trosolwg dwyieithog o deitlau a thaflen ddigidol ddwyieithog ar gael i’w lawrlwytho am ddim. 
Yng Nghymru, mae casgliad Darllen yn Well ar gyfer dementia yn cynnwys teitl ychwanegol sydd ar gael yn Gymraeg yn unig (Datod; gol. Beti George). 

Lloegr 
Mae ein trosolwg o deitlau a thaflen ddigidol ar gael i’w lawrlwytho am ddim.  

Am fwy o wybodaeth am Ddarllen yn Well ar gyfer dementia gweler ein Dogfen Cwestiynau Cyffredin

Categorïau’r Rhestr Lyfrau 

Ynglŷn â dementia 

Be Hoffech Chi Wir ei Wybod am Fyw gyda Dementia

Karen Harrison Dening, Hilda Hayo a Christine Reddall 

Datod: Profiadau unigolion o ddementia

Beti George (golygydd) 

Adnoddau Digidol 

Alzheimer’s Society Cymru 
Gwybodaeth, cyngor a chymorth i bobl sydd wediʼu heffeithio gan ddementia (gan gynnwys gwybodaeth, cymorth a chyngor yn Gymraeg).
Ffôn: 03300 947 400 (Cymraeg) 0333 150 3456
(Saesneg) (Llun-lau: 9am – 8pm, lau a Gwener: 9am -5pm, Sadwrn a Sul: 10am-4pm)

Dementia UK
Mae Nyrsys Admiral yn Dementia UK yn darparu cefnogaeth a chyngor am ddim syʼn newid bywydau unrhyw un y mae dementia yn effeithio arnynt (gan gynnwys rhywfaint o wybodaeth yn Gymraeg).
Ffôn: 0800 888 6678 (Llun-Gwener: 9am-9pm, Sadwrn a Sul: 9am-5pm)

Cymorth Dementia Prin
Gwasanaethau cefnogi cymdeithasol, emosiynol ac ymarferol arbenigol ar gyfer unigolion sy’n byw gyda diagnosis dementia prin, neu yr effeithir arnynt ganddo. Mae’r cyflyrau dementia a gwmpesir yn cynnwys: Clefyd Alzheimer Cynnar, Crebachu Cefn y Cortecs (PCA), Affasia Cynyddol Sylfaenol (PPA), Clefyd Alzheimer Etifeddol (FAD), Dementia Blaenarleisiol (FTD), Dementia Blaenarleisiol Etifeddol a Dementia gyda Chyrff Lewy.
Ffon: 020 3325 0828 (gwasanaeth ffôn llais)

Canllaw Dementia y GIG
Gwybodaeth i bobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia, ynghyd â’i ffrindiau aʼu teuluoedd.
www.111.wales.nhs.uk/LiveWell/Dementia/

Age UK
Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bobl hŷn, gan gynnwys gwybodaeth am ddementia a phynciau perthnasol.
Tel: 0800 055 6112 (8am-7pm every day of the year)


Byw gyda dementia 

The Practical Handbook of Living with Dementia

Richard Coaten, Mark Hopfenbeck ac Isla Parker 

Title available in English only / Teitl ar gael yn Saesneg yn unig

Olwyn Sgwâr

Peter Berry a Deb Bunt

Adnoddau Digidol 

Lleisiau Dementia
Mae Lleisiau Dementia (Dementia Voices) yn dwyn ynghyd waith Innovations in Dementia gyda phobl â dementia, gan gynnwys DEEP: rhwydwaith y Deyrnas Unedig o leisiau dementia, Dyddiaduron Dementia, Rhannu Cyngor ar Ddementia, Dementia Pobl Greadigol ac Ymholiadau Dementia.
Ffôn: 01392 420076

Pecyn Cymorth Byw gyda Dementia
Mae’r pecyn hwn o adnoddau yn seiliedig ar ymchwil a phrofiadau arbenigol pobl â dementia aʼu gofalwyr. Diben yr adnoddau hyn yw:

  • rhoi gobaith i chi ar gyfer y dyfodol
  • eich ysbrydoli drwy enghreifftiau o brofiadau bywyd go iawn
  • cynnig syniadau i’ch helpu i fyw eich bywyd wrth i chi ddewis

Llyfrynnau Grym Mewn Gwybodaeth
Maeʼr Ilyfrynnau Grym Mewn Gwybodaeth yn rhoi awgrymiadau defnyddiol a allai helpu i wneud bywyd ychydig yn haws ar ôl diagnosis o ddementia. Maent wedi cael eu hysgrifennu gan bobl syʼn byw gyda dementia ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia. Datblygwyd llyfryn gwreiddiol Grym Mewn Gwybodaeth gan ac ar gyfer pobl yng Nghymru. Ers hynny mae wedi cael ei addasu gan ac ar gyfer pobl syʼn byw yn Lloegr aʼr Alban.

Rhestr chwarae ar gyfer bywyd
Creu rhestr chwarae o gerddoriaeth ystyrlon bersonol ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia.

Archif Hel Atgofion y BBC
Adnodd hel atgofion i gefnogi pobl â dementia a gofalwyr.

Gofalwyr a theulu 

Dementia Essentials

Jan Hall 

Title available in English only / Teitl ar gael yn Saesneg yn unig

Unedig: Gofalu am ein hanwyliaid sy’n byw gyda dementia

Gina Awad, darluniau gan Tony Husband 

Ti’n Cofio fi?

Shobna Gulati

Book cover for Fy Llyfr am yr ymennydd newid a dementia

Fy Llyfr am yr Ymennydd, Newid a Dementia

Lynda Moore, darluniau gan George Haddon 

Book cover for Y Llyfr Hel Atgofion

Y Llyfr Hel Atgofion

Louise Gooding, darluniau gan Erika Meza 

Sut i Helpu Rhywun gyda Dementia

Dr Michelle Hamill a Dr Martina McCarthy 

Cân yn y Cof

Simon McDermott 

Book cover for Elfed a'r Anrheg

Elfed a’r Anrheg

David McKee

The Stories Grandma Forgot (and How I Found Them)

Nadine Aisha Jassat 

Title available in English only / Teitl ar gael yn Saesneg yn unig

Adnoddau Digidol 

Dementia Carers Count
Gwybodaeth, cefnogaeth a gwasanaethau am ddim sy’n rhoi cyfle i ofalwyr teulu ddeall mwy am ddementia ac i gysylltu ag eraill mewn sefyllfa debyg.
Ffôn: 0800 652 1102 (Llun – Gwener: 9am – 5pm)

Carers UK a Carers Wales
Darparu gwybodaeth a chyngor ar ofalu, helpu gofalwyr i gysylltu â’i gilydd, ymgyrchu gyda gofalwyr am newid parhaol, a defnyddio arloesedd i wella gwasanaethau.
Ffôn: 0808 808 7777 (Llun – Gwener: 8am – 6pm)

The Reading Agency

Join our mailing list (Welsh)

Edit this text in the admin but for Welsh.

Back to Top