Llyfrau ar Bresgripsiwn i helpu i fynd i’r afael â dementia
Mae pennod newydd yn y frwydr yn erbyn dementia yng Nghymru wedi dechrau, wrth lansio cynllun Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer dementia gan ddarparu ystod unigryw o lyfrau trwy lyfrgelloedd cyhoeddus, wedi’u hanelu at feithrin dealltwriaeth well o’r clefyd.
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, cyflenwir y rhestr lyfrau a guradwyd yn arbennig gan Yr Asiantaeth Ddarllen mewn partneriaeth â Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) a’i chymeradwyo gan swyddogion proffesiynol ym maes iechyd. Erbyn hyn mae’r elusen yn gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru i sicrhau bod y llyfrau ar gael yn y Gymraeg, am y tro cyntaf.
Caiff y fenter ei lansio’n swyddogol yn ystod Cynhadledd Cymdeithas Ewropeaidd Gwybodaeth Iechyd a Llyfrgelloedd (EAHIL) yng Nghaerdydd ar 11 Gorffennaf 2018, i gefnogi Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia newydd Llywodraeth Cymru.
Bydd y darlledwr iaith Gymraeg Beti George, y mae ganddi brofiad llaw gyntaf o fyw gyda chlefyd Alzheimer ar ôl gofalu am ei diweddar bartner David Parry-Jones, yn siaradwr cyweirnod yn ystod y lansiad.
Bydd modd benthyca’r llyfrau Darllen yn Well ar gyfer dementia o bob llyfrgell yng Nghymru yr haf hwn. Maent yn cynnwys gwybodaeth a chyngor i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, neu unrhyw un sy’n gofidio am ei gof. Mae llyfrau ffuglen, hunangofiannau a llyfrau ffotograffig yn ogystal y caiff eu defnyddio mewn therapi atgofion.
Cymeradwywyd y cynllun gan bobl y mae ganddynt brofiad o ddementia a’u gofalwyr, swyddogion proffesiynol ym maes iechyd, elusennau dementia arweiniol a gweinidogion llywodraeth, fel gwasanaeth iechyd defnyddiol a leolir yn y gymuned. Mae cynllun Darllen yn Well wedi’i gyflenwi yn Lloegr ers 2013 ac mae eisoes wedi cyrraedd 778,000 o bobl. Gall swyddog proffesiynol ym maes iechyd argymell teitl llyfr i unrhyw un neu gall gael mynediad i’r llyfrau am ddim o’i lyfrgell leol.
Meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd yn Llywodraeth Cymru: “Mae cynllun gweithredu ar gyfer dementia Llywodraeth Cymru’n amlinellu ein blaenoriaethau o ran gweithredu i gyflawni cenedl ddementia-gyfeillgar a chaiff ei gefnogi gan fuddsoddiad ychwanegol o £10 miliwn. Bydd y cynllun Darllen yn Well yn helpu pobl i ddeall a rheoli eu hiechyd a’u llesiant eu hunain gan ddefnyddio ymyraethau hunangymorth. Mae ein cynllun gweithredu dementia hefyd yn cydnabod pa mor bwysig ydyw bod y bobl yn derbyn gofal a chefnogaeth yn eu dewis iaith, felly mae’n bwysig iawn bod y llyfrau hyn hefyd ar gael yn y Gymraeg.”
Meddai Beti George, sy’n cyflwyno rhaglen ar BBC Radio Cymru o’r enw Beti a’i Phobol: “Bu David yn ddarllenwr brwd ers ei blentyndod. Bu’n darllen hyd y diwedd.
Ei lyfrau oedd yn ei gadw’n fodlon ac yn cadw’r ddysgl yn wastad iddo, ac o ganlyniad roedd fy mywyd fel gofalwr yn llawer haws.”
Mae’r actor Hollywood sy’n siarad Cymraeg, Julian Lewis Jones, a ymddangosodd yn Invictus a Justice League, yn gefnogwr o’r fenter: “Bu fy mam-gu’n byw gyda dementia ers nifer o flynyddoedd ac roedd yn dorcalonnus. Rwy’n sicr y bydd yr ymyrraeth hon yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Rwy’n dod o gefndir Cymraeg a gwn y byddai fy mam-gu wedi cael cysur gan lyfrau yn ei mamiaith. Os byddaf byth yn dost, gwn y byddwn wrth fod modd bod rhywun yno sy’n gallu darllen i mi yn y Gymraeg.”
Dyfeisiwyd y fenter yn wreiddiol yng Nghymru gan y seicolegydd clinigol ymgynghorol a’r awdur yr Athro Neil Frude, a ddywedodd: “Mae argymell llyfrau i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr yn beth gwych gan yr Asiantaeth Ddarllen, ac rwy’n falch iawn ei fod yn dod i Gymru.
“Mae pob un o’r llyfrau wedi’i ddarllen gan arbenigwyr proffesiynol neu’r rheiny y mae ganddynt brofiad o fyw gyda dementia. Nid yw pobl sy’n byw gyda dementia o reidrwydd yn defnyddio’r rhyngrwyd, felly gall llyfrau roi cysur mwy a bod yn fwy hygyrch iddynt.
“Mae’n bwysig bod yr un wybodaeth ar gael ar gyfer siaradwyr Cymraeg a siaradwyr Saesneg. Efallai y bydd siaradwyr Cymraeg sy’n byw gyda dementia’n ei chael yn haws ac yn fwy cyffyrddus i siarad yn eu hiaith gyntaf.”
Meddai Debbie Hicks, Cyfarwyddwr Creadigol Yr Asiantaeth Ddarllen:
“Gall diagnosis dementia fod yn brofiad anodd ac unig i bawb sy’n rhan ohono. Mae Darllen yn Well yn darparu darllen defnyddiol sydd ar gael yn y gofod diogel y gellir ymddiried ynddo sef y llyfrgell leol, gan gefnogi pobl i fyw yn dda, rheoli cyfrifoldebau gofalu a chysylltu â phrofiadau pobl eraill. Rydym wrth ein bodd bod y llyfrau gwych hyn yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg am y tro cyntaf gan alluogi i’r cynllun gyrraedd mwy o bobl trwy rym darllen.”
Meddai Nicola Pitman, SCL Cymru:
“Mae wedi bod yn uchelgais gan SCL Cymru ers nifer o flynyddoedd i adfywio’r cynllun Llyfrau ar Bresgripsiwn yng Nghymru. Ceir llawer o dystiolaeth y gall bibliotherapi gyflenwi cynifer o fuddion i’r rheiny y maent wedi’u heffeithio gan nifer o gyflyrau iechyd. Wrth gwrs rydym hefyd yn angerddol dros sicrhau bod llyfrgelloedd yn chwarae rôl allweddol o ran gwella iechyd a llesiant y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym mor falch y bydd lansio cynllun Darllen yn Well – Dementia yn sicrhau y bydd y cynllun yn rhoi cymorth i’r nifer gynyddol o bobl yng Nghymru y maent wedi’u heffeithio gan Ddementia.”