Darllen yn Dda yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi The Reading Agency i ddarparu Darllen yn Well ym mhob un o’r 22 awdurdod llyfrgell yng Nghymru.
Y Reading Agency sydd wedi datblygu Darllen yn Well, mewn partneriaeth â Libraries Connected a Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru. Caiff ei ddarparu trwy lyfrgelloedd cyhoeddus, a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac Arts Council England. Mae partneriaid iechyd blaenllaw wedi datblygu’r cynllun a’i gefnogi. Mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr. Mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu a’i gefnogi gan bartneriaid iechyd blaenllaw.
Mewn partneriaeth â Chyngor Llyfrau Cymru, mae’r cynlluniau canlynol ar gael yng Nghymru ym mhob un o’r 22 awdurdod llyfrgell, a’r rhan fwyaf o’r teitlau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg:
- Darllen yn Well i blant
- Darllen yn Well i’r arddegau
- Darllen yn Well ar gyfer iechyd meddwl
- Darllen yn Well ar gyfer dementia
Y llyfrau
Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant
Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant yn darparu darllen defnyddiol i gefnogi iechyd meddwl a lles plant. Mae’r llyfrau’n darparu gwybodaeth, straeon a chyngor gyda sicrwydd ansawdd. Mae llyfrau wedi cael eu dewis a’u hargymell gan weithwyr iechyd proffesiynol blaenllaw a’u cynhyrchu ar y cyd gyda phlant a theuluoedd.
Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn i’r arddegau
Mae Darllen yn Well i’r arddegau yn argymell adnoddau darllen a digidol i helpu pobl ifanc 13-18 oed ddeall eu teimladau yn well, delio â phrofiadau anodd a hybu hyder. Canolbwynt y rhestr yw cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn eu harddegau ar ôl pandemig.
Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl (i oedolion)
Mae Darllen yn Well ar gyfer iechyd meddwl yn darparu gwybodaeth a chymorth defnyddiol ar gyfer rheoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Mae rhai llyfrau hefyd yn cynnwys straeon personol gan bobl sy’n byw gyda rhywun ag anghenion iechyd meddwl neu’n gofalu amdano.
Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer dementia
Mae Darllen yn Well ar gyfer dementia yn argymell adnoddau darllen a digidol defnyddiol i bobl sy’n byw gyda dementia. Mae yna lyfrau i deuluoedd, ffrindiau a gofalwyr hefyd. Mae’r rhestr lyfrau’n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth dibynadwy yn ogystal â straeon personol a llyfrau sy’n briodol i’w hoedran i blant.
Addasiadau Cymraeg
Rydym yn cydweithio â Chyngor Llyfrau Cymru i sicrhau bod teitlau ar y rhestrau ar gael yn y Gymraeg. I gael gwybodaeth am y teitlau sydd ar gael, ewch i’n tudalennau sydd â’r rhestrau llyfrau plant, yr arddegau, iechyd meddwl a dementia.
Yn ogystal, mae’r taflenni i ddefnyddwyr wedi’u haddasu gyda chyfeiriadau at lyfrau Cymraeg ac wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg. -Gallwch bori yn ein deunyddiau Cymraeg a dwyieithog yn ein cronfa adnoddau. .
Cymryd rhan
- Gall llyfrgelloedd sy’n darparu Darllen yn Well yng Nghymru lawrlwytho’r model cyflenwi
- Cysylltwch gydag unrhyw gwestiynau am Darllen yn Well yng Nghymru