Effaith

Rydym yn falch o’r effaith y mae ein gwaith yn ei gael ar bobl o bob oed. Yn 2022/23, fe wnaethom gyrraedd 2.17 miliwn o bobl ledled y DU.

Trwy ein rhaglenni, ymunodd dros 139,000 o blant a theuluoedd â’u llyfrgell leol a benthycwyd dros 12.9 miliwn o lyfrau o lyfrgelloedd cyhoeddus. Rydym wrth ein bodd yn gweld cymaint o bobl yn cychwyn ar eu taith ddarllen, yn parhau i ddarllen neu’n ailddarganfod llawenydd darllen.

Ni allem ei wneud heb ein partneriaid. Yn 2022/23 buom yn gweithio gyda 30,000 ohonynt! Trwy’r partneriaethau hyn, bu modd i ni roi dros 256,000 o lyfrau, adnoddau a phecynnau gweithgaredd yn anrheg. Pan ofynnon ni i ddarllenwyr Darllen yn Dda a oedden nhw’n gweld bod eu llyfrau’n ddefnyddiol, dywedodd 92% eu bod nhw! Edrychwn ymlaen at gyrraedd ac effeithio hyd yn oed mwy o bobl eleni.

Rydym yn gwerthuso effaith ein gwaith mewn sawl ffordd, gan sicrhau ein bod yn gwneud gwahaniaeth i’n cynulleidfaoedd:

  • Rydym yn cynnal gwerthusiad strwythuredig o’n rhaglenni, gan gyhoeddi adroddiadau gwerthuso ac ymchwil ar y canfyddiadau.
  • Rydym yn monitro cyrhaeddiad ein rhaglenni, gan sicrhau ein bod yn cyrraedd y bobl sydd angen ein cymorth fwyaf.
  • Rydyn ni’n siarad â’n partneriaid a’r bobl sy’n cymryd rhan yn ein rhaglenni i gael gwybod am eu profiadau. Rydym yn cynhyrchu astudiaethau achos sy’n amlygu’r gwahaniaeth y mae ein gwaith yn ei wneud i’r plant, y bobl ifanc a’r oedolion sy’n cymryd rhan.
  • Rydym yn adolygu tystiolaeth allanol i sicrhau bod ein gwaith yn adeiladu ar yr ymchwil mwyaf diweddar. Rydyn ni’n rhannu’r ffeithiau darllen a ffeithiau’r llyfrgell i godi ymwybyddiaeth o’r gwahaniaeth y gall darllen ei wneud i’n bywydau ni i gyd.

Enghraifft bloc ystadegau:

Gallwch ychwanegu bloc o ystadegau at dudalen gan ddefnyddio cod byr. Mae’r canlynol yn enghraifft sy’n cymryd ystadegau o’r fan hon .

A line illustration of a head with a scribble inside.

Non-readers are 28% more likely to report feelings of depression.

Illustrated navy coins falling.

£81 billion a year in lost earnings and welfare spending due to low levels of literacy.

The Reading Agency

Join our mailing list (Welsh)

Edit this text in the admin but for Welsh.

Back to Top